Ewch at gynnwys
Ray Finch (1914-2012) a/and Winchcombe Pottery 
Ionawr 25 January – Mehefin 08 June 2025
Mae’r arddangosfa hon yn dathlu gwaith Ray Finch, crochenydd crefftus o fri a gymerodd drosodd Grochendy Winchcombe yn Swydd Gaerloyw yng nghanol yr 20fed ganrif oddi wrth ei fentor, Michael Cardew. Ymhen amser, cymerodd Finch, a ddaeth yn brentis i Cardew yn 22 oed, ofal am y crochenwaith ac yn y pen draw daeth yn berchennog arno. Dan ei arweiniad, adeiladwyd busnes llewyrchus iawn.
Y Casgliad Serameg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn un o brif gasgliadau serameg anniwydiannol Brydeinig a rhyngwladol ym Mhrydain. Mae’n rhan o Amgueddfeydd ac Orielau’r Ysgol Gelf sydd â statws achrediad amgueddfa llawn ac a gefnogir gan Archif Serameg. ‘Rydym yn casglu serameg Brydeinig a rhyngwladol gyda ffocws arbennig ar gynrychioli seramegyddion sy’n gweithio yng Nghymru.
Lleolir yr Oriel Serameg ar lawr isaf Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac mae’n cynnwys detholiad o grochenwaith stiwdio arloesol, gan gynnwys gwaith gan Bernard Leach, Shoji Hamada, Frances Richards, y Brodyr Martin, Norah Braden, Katharine Pleydell-Bouverie, Michael Cardew, Lucie Rie , Hans Coper ac eraill. Hefyd yn yr oriel gefn arddangosir rhai enghreifftiau o lestri slip Cymreig a Seisnig o’r 18fed a’r 19eg ganrif, yn ogystal â phorslen Abertawe a Nantgarw. Mae gan yr oriel flaen raglen newidiol o arddangosfeydd yn nodweddu gwneuthurwyr serameg cyfoes a sioeau wedi’u curadu o’r casgliad. Trefnir sgyrsiau, digwyddiadau a gweithgareddau teuluol gyda Chanolfan y Celfyddydau trwy gydol y flwyddyn. http://www.ceramics-aberystwyth.com
Oriel Cerameg| Ceramic Gallery
Canolfan y Celfyddydau | Aberystwyth Arts Centre
Prifysgol Aberystwyth University, SY23 3DE
Image
Image
Image
Image
Image Image
Image Image