Ewch at gynnwys

Mai 13eg- Mehefin 9fed

Mae’r gosodiad yn ymdrin â thema mudo/ymfudo ac mae’n benllanw cyfnod preswyl o 3 mis yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Casgliad o greaduriaid wedi’u gosod mewn rhes hir, yn garafán o unigolion sydd eto’n amlwg yn perthyn i  lwythi neu deuluoedd ehangach.

Drwy weld y llif yma o dylwyth ar daith, gwahoddir yr ymwelydd i fyfyrio a chreu stori, i hel atgofion am yr hyn a gollwyd neu a aeth yn angof, i ailystyried profiadau dynoliaeth y byd presennol ac i ystyried y dyfodol.