Ewch at gynnwys

Mae paentiadau Sam Vicary yn tynnu’n gryf ar atgofion a phrofiad personol. Mae ei gweithiau tawel, myfyriol yn cyfleu momentau penodol – adegau pan mae’r meddwl yn setlo ac mae’r byd yn ymddangos yn llonydd am eiliad.

Trwy fywyd llonydd, mae Sam yn creu safbwyntiau lluosol: mae’r potiau a phlatiau yn y tu blaen yn gwahodd y gwyliwr i deithio trwy dirweddau haenog gan oedi ar dameidiau sy’n arwain at rywle arall. Mae gwrthrychau’n gorffwys ar waliau a silffoedd creigiog, gan arwain y llygad i’r pellter. Mae ei Phaentiadau Pwyth bychain yn mynegi ymateb rhydd, chwareus i’r tir, gan ddefnyddio edau i olrhain llinellau gwrychoedd, caeau a ffiniau.

Daw Sam o Sir Benfro ac mae’n byw yn Aberteifi. Astudiodd y Celfyddydau Gweledol ym Mhrifysgol De Montfort ac mae wedi adeiladu gyrfa yn y celfyddydau yng Nghymru.

(Llun: Gwanwyn Garn Fawr, Sam Vicary)