Ewch at gynnwys

Ffenest Tywydd

Awst 9fed – Hydref 6ed

Mae gwaith Saoirse yn archwilio ei chysylltiad gyda thirweddau cyfarwydd, tir ei chartref yng Ngorllewin Cymru: y dirwedd, yr arfordir, yr ecoleg. Mae’n cael ei hysbrydoli gan liw, planhigion, awyrgylch a’r tywydd lleol, wedi treulio ei phlentyndod ar ynysoedd bychain, wedi eu cwmpasu gan rasys llanw chwyrlïog a moroedd gwyntog, gwyllt.