Ydych chi'n berson ifanc sy'n caru actio, canu a dawnsio?
Os felly, ymuno â theatr ieuenctid yw’r ffordd berffaith i chi gymryd rhan yn y celfyddydau perfformio.
Gallwch ddysgu popeth o dechnegau actio i grefft llwyfan, a chewch gyfle i berfformio o flaen cynulleidfa. Byddwch hefyd yn gwneud ffrindiau newydd ac yn adeiladu atgofion parhaol.
Ein dosbarthiadau
Mae ein Hysgol Lwyfan a Theatr Ieuenctid yn cynnig hyfforddiant actio proffesiynol ar gyfer perfformwyr ifanc o bob oedran mewn amgylchedd hwyliog, cefnogol a chynhwysol. Trwy eu dosbarthiadau rheolaidd, bydd aelodau yn datblygu eu sgiliau mewn actio, dawnsio a chanu, gyda chyfleoedd blynyddol i ymarfer eu sgiliau trwy gyflwyniadau yn y stiwdio a pherfformiadau ar y prif lwyfan, yn ogystal â’r cyfle i sefyll arholiadau LAMDA. Trwy waith Theatr bydd y plant hefyd yn dysgu sgiliau bywyd hanfodol megis hunan hyder, gweithio fel rhan o dîm, siarad cyhoeddus, cydsymudiad a chanolbwyntio. Mae’r Ysgol Lwyfan yn cyflogi athrawon proffesiynol profiadol sy’n angerddol ynglyn â theatr ac addysg – i sicrhau ein bod yn cyfarfod ag anghenion y grŵp a’r unigolyn fel ei gilydd.
Mae cynyrchiadau diweddar ein Hysgol Lwyfan a Theatr Ieuenctid yn cynnwys ‘The Lion, the Witch and the Wardrobe’, ‘Samphire’, ‘The Greatest Show’, ‘Elf Jr’, ‘Matilda Jr’, ‘Aberetwm’, ‘Hansel and Gretel’, ‘Cable Street’.
Arholiadau LAMDA
Academi Gerddoriaeth a Chelf Ddramatig Llundain yw’r ysgol ddrama hynaf yn y DU. ‘Rydym yn cynnig y cyfle i unrhyw fyfyriwr, boed yn rhan o’r ysgol lwyfan ai peidio, i sefyll arholiadau LAMDA. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i sefyll yr arholiad actio, gan berfformio unai ar ei ben ei hun neu ymddiddan rhwng dau. Mae’r arholiadau hyn yn helpu i wella hyder a sgiliau siarad cyhoeddus a fydd o fudd i unrhyw blentyn. Mae arholiad LAMDA mewn lleferydd a drama yn cyfateb i radd gerddoriaeth sy’n mynd i fyny at Radd 8, gyda Graddau 6, 7, ac 8 yn werth pwyntiau UCAS a all helpu i symud taith eich plentyn ymlaen i addysg uwch. Bydd myfyrwyr sy’n sefyll arholiadau LAMDA yn derbyn sesiynau un-i-un gydag athrawon LAMDA cofrestredig cymwys. Fel Canolfan Breifat LAMDA, ‘rydym yn trefnu ac yn cynnal ein sesiynau arholiadau ein hunain fel y gall myfyrwyr sefyll arholiadau yma yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth gan osgoi teithio i rywle anghyfarwydd.
Ymunwch Heddiw
I ddysgu mwy am ein dosbarthiadau dawns neu i gofrestru eich plentyn, cysylltwch â ni yn takepart@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 622888.
Fel arall, gallwch ymuno â’n rhestr aros a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd gennym fwy o wybodaeth.
Ymunwch â rhestr aros eich hysgol lwyfan