Ewch at gynnwys

7 Mai 10yb -1yp 

Mae arddangosfa’r Ysgol Gelf yn gweld myfyrwyr yn cymryd drosodd gofod arddangos Canolfan y Celfyddydau gydag arddangosfeydd dros dro am y diwrnod. Bydd y myfyrwyr yn creu perfformiadau, cerfluniau, ffotograffiaeth, celf ddigidol a gwaith yn seiliedig ar destun mewn ymateb i’r thema ‘hud’. Ymunwch â ni am luniaeth ysgafn a theithiau tywysedig a chyfle i gyfarfod â’r artistiaid a’r ymchwilwyr – croeso i bawb!