Ewch at gynnwys

Teulu / Family

2 Mawrth – 23 Mehefin 2024

Oriel 1

Mae Teulu yn arddangosfa unigryw sydd yn gweld 4 teulu o Geredigion yn gweithio gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gyd-curadu arddangosfa fawr sydd yn dangos gwaith a chymryd ysbrydoliaeth o’n casgliadau cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a Ysgol Gelf, Amgueddfa ac Orielau, Prifysgol Aberystwyth.

Mae’n brosiect sy’n torri tir newydd ac sy’n ceisio dod o hyd i fodelau newydd o weithio sy’n rhoi’r cyhoedd wrth galon y broses o wneud penderfyniadau. Wrth ei graidd mae’r nod i chwalu’r rhwystrau sy’n atal cynulleidfaoedd teuluol rhag mwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.

Gweithdai Teulu Am Ddim