Mawrth 7fed – Gorffennaf 1af
Mae Teulu yn arddangosfa unigryw sydd yn gweld 4 teulu o Geredigion yn gweithio gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gyd-curadu arddangosfa fawr sydd yn dangos gwaith a chymryd ysbrydoliaeth o’n casgliadau cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a Ysgol Gelf, Amgueddfa ac Orielau, Prifysgol Aberystwyth. Gwelir y brif arddangosfa yn Oriel 1, ac mae’r arddangosfa yn Oriel y Caffi yn cyflwyno ffotograffau dogfen yn dilyn taith y teuluoedd drwy’r prosiect 6 mis unigryw yma, wrth iddyn nhw gymryd rhan mewn teithiau i orielau, gweithdai creadigol, dethol y gweithiau celf a gosod yr arddangosfa.