Daw Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn Ganolfan Arholiadau Gofrestredig gyda Choleg y Drindod Llundain
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn falch iawn i gyhoeddi ei statws newydd fel Canolfan Arholiadau Gofrestredig gyda Choleg y Drindod Llundain. Mae’r garreg filltir arwyddocaol hon yn ein galluogi i gynnig arholiadau Drama mewn Actio, y Celfyddydau Perfformio, Theatr Gerddorol ac Actio ar gyfer y Sgrîn. Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn adeiladu ar dros ddegawd o lwyddiant fel Canolfan Ddyfarniad y Celfyddydau, lle ‘rydym wedi meithrin creadigrwydd a dathlu llwyddiannau artistig pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd.
Mae cymwysterau Drama Coleg y Drindod Llundain, sy’n uchel ei barch yn rhyngwladol, wedi’u cynllunio i ysbrydoli dysgwyr o bob oed i ddatblygu eu sgiliau creadigol a pherfformio. Trwy ddod yn Ganolfan Arholi Gofrestredig, mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn falch o ehangu ei gwasanaethau a darparu llwyfan lleol i unigolion arddangos eu talent, ennill cydnabyddiaeth am eu sgiliau, a gwneud cynnydd yn eu teithiau artistig.
Gair oddi wrth Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd i ddod yn Ganolfan Arholi Gofrestredig gyda Choleg y Drindod Llundain,” meddai Laura Oliver, Cydlynydd Dysgu Creadigol a Thiwtor Drama. “Mae drama yn chwarae rhan mor annatod yn y celfyddydau creadigol, ac ‘rydym wrth ein bodd i fedru cynnig y cyfle ychwanegol hwn i bobl ifanc yn ein cymuned i ennill cydnabyddiaeth ffurfiol am eu doniau.”
Mae arholiadau drama gyda Choleg y Drindod Llundain yn darparu fframwaith hyblyg a chynhwysol sy’n cynnwys perfformwyr ar bob lefel. Boed yn ddarpar actorion, cyfarwyddwyr, neu’r rhai sy’n syml yn angerddol am y celfyddydau dramatig, bydd y cyfle newydd hwn yn galluogi cyfranogwyr i dderbyn gwerthusiad a chydnabyddiaeth arbenigol tra’n datblygu hyder, creadigrwydd a sgiliau cyfathrebu.
Wrth Edrych Ymlaen: Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ymrwymedig i gynnig arholiadau Drama cyntaf y Drindod yn yr haf, gyda sesiynau ar gael i unigolion a grwpiau. Cyhoeddir yn fuan manylion am gofrestru, trefn yr arholiadau, a gweithdai sydd ar ddod i gefnogi ymgeiswyr.
Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â’n gwefan neu gysylltwch â ni ar lao8@aber.ac.uk neu 01970 62 28 88