Datblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth, perthyn a chysylltiad â’n cymunedau amrywiol
Credwn mewn Cymru sy’n gysylltiedig yn gymdeithasol ac wedi’i chyfoethogi’n greadigol
Rydym yn dod â’n chymunedau ynghyd â’r profiadau celfyddydol rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol gorau, yma yn Aberystwyth. Ni yw un o leoliadau mwyaf a mwyaf adnabyddus Cymru, gan gyflwyno rhaglen gelfyddydol ac ymgysylltu eang drwy gydol y flwyddyn.
Ein cenhadaeth:
Cartref
creadigol
i bawb
Amrywiaeth
Cymraeg
Arddangos yr iaith Gymraeg, a chreadigrwydd a diwylliant Cymru
Cymuned
Grymuso a chyfoethogi ein cymunedau, cyfranogwyr ac ymarferwyr o Aberystwyth, Canolbarth Cymru a thu hwnt
Cydweithio
Cydweithio, cynnal a chyflwyno artistiaid rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwlado
Cynaladwyedd
Cyflawni arferion cynaliadwy yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol
Ein Gwerthoedd
Rydym yn greadigol, yn uchelgeisiol, yn gydweithredol, yn groesawgar, yn canolbwyntio ar bobl ac yn gymdeithasol gyfrifol.
Credwn yng ngrym y celfyddydau i drawsnewid cymdeithas ac i newid a chyfoethogi bywydau
Credwn yn y celfyddydau fel glud cymdeithasol i gymunedau, i gysylltu a grymuso unigolion a chreu ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth.
Credwn fod y celfyddydau i bawb.
Dros y pedair blynedd nesaf mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer datblygu’r adeilad ffisegol, gyda’r bwriad o fod y Ganolfan Celfyddydau Carbon Niwtral gyntaf yng Nghymru. Mae’r dyfodol yn ein dwylo ni. Mae gennym gyfrifoldeb i ddod â phobl at ei gilydd a chymryd agwedd ar y cyd i’w siapio er gwell.
Dysgwch mwy amdanon ni
Darllenwch fwy am ein nodau a’n huchelgeisiau yn ein Cynllun Strategol.