Ewch at gynnwys
Event Image
Sul 5 Hyd
·
Comedi

Event Info

Dydd Sul 5 Hydref, 1.45pm, 75 munud

Tocynnau: £12.00

Canolfan y Celfyddydau - Stwidio Ddawns 3

PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth

Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth yw standyp mewn iaith arall? Dyma’ch cyfle i ddarganfod. Mewn ffordd.

Dechreuodd fel syniad syml. Tra bod digrifwyr yn perfformio yn Gymraeg, bydd y gynulleidfa yn clywed cyfieithiad Saesneg. Yn fyw! Dim ond cwpl o fân anawsterau technegol, ac oherwydd bod pob cyfieithydd yn y wlad wedi gwrthod y gwaith, bydd y cyfieithiadau yn cael eu darparu yn lle hynny ... gan y digrifwyr eu hunain.

Mae’r sioe anarchaidd ac anrhagweladwy hon wedi gwerthu pob tocyn yn barhaus yng Ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth ers ei lansio yn 2017. Yn ddoniol dros ben, byddwch yn chwerthin o’r dechrau i’r diwedd – a bron yn sicr yn dysgu llawer am yr iaith

Gymraeg a’i diwylliant ar hyd y ffordd.

Yn serennu’r cyfieithydd-digrifwr Steffan Alun a chyfres o berfformwyr gorau’r sîn Gymraeg.

Nodyn: Mae hon yn sioe ddwyieithog, yn cael ei pherfformio yn Gymraeg a Saesneg. Nid oes angen i chi siarad Cymraeg i ddeall y sioe hon.

16 oed+

Tocynnau Hynt

Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.

Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Wella

Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sul 05 Hydref, 2025
13:45