Ni yw’r unig sinema sy’n darparu cynnwys ffilm hygyrch o fewn taith awr i Aberystwyth. Mae ehangu mynediad hefyd yn rhan bwysig o’n rhaglen, felly rydym yn rhaglennu ffilmiau â Sain Ddisgrifiadau ac Isdeitlau yn rheolaidd.
Ein nod yw bod yn groesawgar ac yn hygyrch i bawb. Dyma'r cyfan sydd angen i chi ei wybod.
Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad penodol ac yr hoffech siarad ag aelod o’n tîm, ffoniwch 01970 623232 neu e-bostiwch artstaff@aber.ac.uk
Archwiliwch ein lleoliad
Cyn i chi ddod i ddigwyddiad, dewch i adnabod ein hadeilad gyda’n map 3d rhyngweithiol.
Rydym hefyd wedi creu canllaw i bobl sy’n mynychu digwyddiadau a gweithgareddau, gan gynnwys nodiadau i helpu gofalwyr neu gynorthwywyr sy’n dod gyda nhw.
Gwybodaeth ddefnyddiol
- Mae lle parcio wrth ymyl y brif fynedfa i yrwyr â symudedd cyfyngedig.
- Mae dau le ar gael hefyd yng nghefn y theatr, gyda mynediad gwastad i’r prif gyntedd.
- Mae 4 lle i gadeiriau olwyn ym mlaen y Neuadd Fawr gyda mynediad gwastad i’r stryd a phrif lawr Canolfan y Celfyddydau, gan gynnwys y Swyddfa Docynnau a Chyntedd y Neuadd Fawr.
- Mae mynediad i gadeiriau olwyn yn bosibl i bob man perfformio a gweithdy yn y lleoliad.
- Mae mynediad i’r prif gyntedd a’r swyddfa docynnau ar lefel y llawr gwaelod, mae lifft i fyny i gyntedd y theatr a lifft grisiau i lawr i’r cyntedd isaf.
- Mae rhes gefn ein sinema wedi’i chadw ymlaen llaw ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, gofalwyr ac unrhyw un ag anghenion mynediad corfforol.
- Mae toiledau ar gael ar bob lefel ac eithrio’r cyntedd isaf.
- Rydym yn croesawu cŵn tywys a chŵn cymorth hyfforddedig. Os hoffech ddod â’ch ci cymorth i’r awditoriwm, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu’ch tocyn.
- Mae dolenni clyw wedi’u gosod yn y Neuadd Fawr, theatr a sinema.
Sioeau a dangosiadau hygyrch
Sain ddisgrifiad a chapsiynau
Hamddenol
Mae ein dangosiadau hamddenol yn newid yr amgylchedd arferol yn y theatr neu’r sinema felly mae’n fwy cyfforddus ar gyfer ystod o anghenion. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys:
- Dim hysbysebion na threlars
- Isdeitlau
- Goleuadau lefel isel
- Sain fwy tawel
- Rhyddid i wneud sŵn a symud o gwmpas