Ewch at gynnwys

Archwiliwch ein lleoliad

Cyn i chi ddod i ddigwyddiad, dewch i adnabod ein hadeilad gyda’n map 3d rhyngweithiol.

Rydym hefyd wedi creu canllaw i bobl sy’n mynychu digwyddiadau a gweithgareddau, gan gynnwys nodiadau i helpu gofalwyr neu gynorthwywyr sy’n dod gyda nhw.

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Mae lle parcio wrth ymyl y brif fynedfa i yrwyr â symudedd cyfyngedig.
  • Mae dau le ar gael hefyd yng nghefn y theatr, gyda mynediad gwastad i’r prif gyntedd.
  • Mae 4 lle i gadeiriau olwyn ym mlaen y Neuadd Fawr gyda mynediad gwastad i’r stryd a phrif lawr Canolfan y Celfyddydau, gan gynnwys y Swyddfa Docynnau a Chyntedd y Neuadd Fawr.

  • Mae mynediad i gadeiriau olwyn yn bosibl i bob man perfformio a gweithdy yn y lleoliad.
  • Mae mynediad i’r prif gyntedd a’r swyddfa docynnau ar lefel y llawr gwaelod, mae lifft i fyny i gyntedd y theatr a lifft grisiau i lawr i’r cyntedd isaf.
  • Mae rhes gefn ein sinema wedi’i chadw ymlaen llaw ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, gofalwyr ac unrhyw un ag anghenion mynediad corfforol.

  • Mae toiledau ar gael ar bob lefel ac eithrio’r cyntedd isaf.

  • Rydym yn croesawu cŵn tywys a chŵn cymorth hyfforddedig. Os hoffech ddod â’ch ci cymorth i’r awditoriwm, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu’ch tocyn.

‘Rydym yn croesawu cŵn tywys hyfforddedig a chŵn cymorth. Os hoffech ddod â’ch ci cymorth i’r awditoriwm, rhowch wybod i ni pan ‘rydych yn archebu’ch tocyn.
Er diogelwch a lles staff ac ymwelwyr, ‘rydym yn cadw’r hawl i wrthod mynediad, neu i ddirymu mynediad, i gi nad yw’n cydymffurfio â disgrifiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o’r hyn a ystyrir yn gi cymorth:
  • Wedi’i hyfforddi i safon uchel.
  • Ni fydd yn crwydro’n rhydd o gwmpas yr adeilad.
  •        Bydd yn eistedd neu’n gorwedd yn dawel ar y llawr wrth ymyl ei berchennog.
  •         Wedi’i hyfforddi i fynd i’r toiled ar orchymyn ac felly’n annhebygol o faeddu mewn man cyhoeddus.
  •          Dylai fod yn adnabyddadwy o’r harnais neu’r gôt arbennig y mae’n ei gwisgo.
Credwn fod cŵn cymorth yn anifeiliaid gweithio proffesiynol sydd wedi eu hyfforddi i safon uchel, nad ydynt yn debygol o achosi unrhyw broblemau, a bod yn rhaid i berchnogion dderbyn cyfrifoldeb am ymddygiad a lles eu ci cymorth. Dylai’r perchennog gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw’r ci cymorth yn achosi niwed corfforol i unrhyw un sy’n mynychu ein hadeilad, neu’n difrodi eiddo.
Os cydymffurfir â’r uchod, gallwn drefnu seddi addas gyda lle i’ch ci aros gyda chi. Er mwyn ystyried cwsmeriaid eraill, lles yr anifail, ac er mwyn cynnal llwybrau gwagio diogel, caniateir cŵn yn ein mannau eistedd dynodedig yn unig.
Er lles eich ci, os yw ein staff yn ymwybodol bod y perfformiad yr ydych yn mynd i’w wylio yn cynnwys sain arbennig o uchel neu synau sydyn fel ergydion gwn, ‘rydym yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i’r ci cymorth i’r awditoriwm.
Os ydych yn ansicr ynglyn â chynnwys a all fod yn aflonyddgar i chi’ch hun neu’ch ci cymorth, darllenwch ganllawiau cynnwys y sioe am rybuddion cynnwys neu cysylltwch â ni i gael cyngor.

  • Mae dolenni clyw wedi’u gosod yn y Neuadd Fawr, theatr a sinema.

Sioeau a dangosiadau hygyrch

Sain ddisgrifiad a chapsiynau

Ni yw’r unig sinema sy’n darparu cynnwys ffilm hygyrch o fewn taith awr i Aberystwyth. Mae ehangu mynediad hefyd yn rhan bwysig o’n rhaglen, felly rydym yn rhaglennu ffilmiau â Sain Ddisgrifiadau ac Isdeitlau yn rheolaidd.

Hamddenol

Mae ein dangosiadau hamddenol yn newid yr amgylchedd arferol yn y theatr neu’r sinema felly mae’n fwy cyfforddus ar gyfer ystod o anghenion. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys:

  • Dim hysbysebion na threlars
  • Isdeitlau
  • Goleuadau lefel isel
  • Sain fwy tawel
  • Rhyddid i wneud sŵn a symud o gwmpas