Event Info
Nos Sul 5 Hydref, 7.30yh, 140 munud gan gynnwys toriad
Tocynnau: £20.00
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
"Roedd yr arbenigwr wedi dweud wrthyf ei fod yn hyderus bod gen i ganser y gwddf oedd wedi lledu i'r chwarennau lymff. Yn llawen, cydiais yn ei law, ac edrych i fyny i'r nefoedd fel pêl-droediwr o Dde America ar ôl sgorio gôl. ’Roedd yn un o eiliadau hapusaf fy mywyd."
Ymunwch â’r awdur a’r digrifwr aml-arobryn a enwebwyd ar gyfer gwobr BAFTA Mark Steel, ar gyfer ei daith newydd ‘The Leopard in My House’. Y pwnc? Ei frwydr yn erbyn canser y gwddf. Brwydr y mae'n ei hennill (diolch byth) a dim ond ei ffraethineb unigryw ef a allai greu sioe gomedi allan o’r sefyllfa. Nid yw canser wedi gwneud dim i bylu arsylwadau gwleidyddol pigog Mark na lleihau ei egni anhygoel: byddwch yn chwerthin, byddwch yn crio, ond byddwch yn chwerthin eto, eto, ac eto. Mae’r sioe hon yn brawf bod y ffefryn Radio 4 dosbarth gweithiol digyffelyb hwn yn wirioneddol haeddu ei le ym mhantheon comedi’r DU.
Mae Mark Steel yn fwyaf adnabyddus am ei sioe boblogaidd ar BBC Radio 4 Mark Steel’s in Town (sydd bellach yn ei thrydedd gyfres ar ddeg), yn ogystal â’i bodlediad poblogaidd What The F *** Is Going On…?. Mae wedi cyflwyno’r Mark Steel Lectures ar BBC 2 a enwebwyd ar gyfer gwobr BAFTA, ac mae’n ymddangos yn rheolaidd ar Have I Got News for You ar BBC 1 a’r News Quiz ar BBC Radio 4. Mae hefyd wedi ysgrifennu sawl llyfr clodwiw, gan gynnwys addasiad o'i sioe stand-yp boblogaidd Who Do I Think I Am? ar gyfer Audible.
14 oed+
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.