Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 12 Med
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: Croeso i bawb

Rhediad: 90 munud dim toriad

Mae’r Rhys Meirion poblogaidd yn dychwelyd i’r Neuadd Fawr am y tro cyntaf ers ei gyngherddau hynod lwyddiannus yma yn 2019 a 2022. Y tro hwn fe’i noddir yn  garedig gan Wasanaethau Pensaernïol Rhys Lewis.

Cyflwynir y noson gan Elin Pavli-Hinde o Aberystwyth a bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys yr enillwyr Eisteddfodol Barry Powell ac Efan Williams. Unwaith eto ymunir â Rhys ar y llwyfan gan ei ferch hynod dalentog, Elan.

Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiad gwadd gan Gôr Brythoniad yn dilyn gwahoddiad personol gan Rhys ei hun ac mae’n argoeli i fod yn noson wych o gerddoriaeth Gymraeg o’r safon uchaf.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Gwener 12 Medi, 2025
20:00