Ewch at gynnwys

Gorffennaf 13eg – Tach 24ain

Mae Pansy yn gydweithrediad rhwng Catrin Webster a Roy Efrat, a gomisiynwyd gan Oriel Glynn Vivian lle cafodd ei gosod ym mis Ebrill 2020. Mae’r arddangosfa yn mynd ar daith i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ystod yr haf eleni.

Ysbrydolir y gwaith gan nofel Franz Kafka ym 1926, The Castle, lle gwelwn y prif gymeriad K. yn brwydro yn erbyn awdurdod, yn ceisio tro ar ôl tro i wneud cynnydd ond yn methu â symud y tu hwnt i ffiniau eiraog y Castell. Yng ngwaith Efrat a Webster, mae’r Pansy (P.) yn llywio taith gyfochrog ar draws y cynfas enfawr sydd wedi’i baentio’n ysgafn. Yn ddoniol ac yn chwareus, mae’r gwaith yn cyfeirio at hunaniaeth, amgyffred, rhywioldeb, a rhywedd.

Comisiynwyd yr arddangosfa yma gan Oriel Glynn Vivian.