Mae ein horielau yn darparu amgylchedd perffaith i artistiaid arddangos eu gwaith ac i chi weld a phrofi celf eithriadol.
Rydym yn arddangos ac yn cefnogi artistiaid o bob rhan o Gymru, y DU a thu hwnt. Rydym hefyd yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau a gweithdai, sy’n ein gwneud yn lle gwych i ddysgu am gelf a chreadigrwydd.
Mynediad am ddim i’n holl arddangosfeydd.
Arddangosfeydd Cyfredol
Am ein gofodau arddangos
Mae Oriel 1 wedi’i phwrpasu ar gyfer arddangosfeydd mawr gyda artistaid proffil uchel.
Mae Oriel 2 yn ymroddedig i artistiaid sy‘n dod i‘r amlwg.
Mae ein Caffi, ac Oriel y Piazza yn lle byddwch chi‘n dod o hyd i waith gan ein cymunedau lleol.
Mae ein Stiwdios Creadigol yn rhoi cyfle i artistiaid ddatblygu eu hymarfer eu hunain mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Darganfyddwch fwy:
Mae’r Oriel serameg i lawr y grisiau yng Nghanolfan y Celfyddydau. Mae arddangosfeydd sy‘n newid fel arfer bedair gwaith y flwyddyn yn yr oriel flaen.
Mae’r rhain yn cynnwys arddangosfeydd thematig o‘r casgliad yn ogystal ag arddangosfeydd wedi‘u curadu ar fenthyg, arddangosfeydd gan artistiaid unigol, grwpiau cerameg a sefydliadau.
Darganfyddwch fwy yma.